Beth am Lety Glampio yn Eisteddfod Genedlaethol 2016?

Published: Thursday 18th Feb 2016

Written by: Gareth Mahoney

Mae gan Y Gorau o Gymru yr union ateb i chi. Ar ôl llwyddiant llynedd ym Meifod, dyma eich cyfle i aros mewn ‘Pabell Glên’ yng ngwersyll ‘glampio’ Eisteddfod Gendlaethol Y Fenni 2016.

https://www.youtube.com/watch?v=UOet7DUcUG8

Gyda naws gymunedol hyfryd, bydd gwersyll Eisteddfod Y Gorau o Gymru wedi ei leoli mewn cae amgaeedig a diogel drws nesaf i faes carafannau swyddogol yr Eisteddfod. Bydd ein pebyll moethus yn cysgu hyd at 5 person ac yn dod gyda dodrefn meddal sy’n cynnwys gwlâu ewyn cysurus, bwrdd, golau amgylchol a charped clyd. Yn gynwysedig hefyd, bydd cyfleusterau coginio, cawodydd moethus a thoiledau ar y safle yn ogystal â siop o fewn tafliad carreg.

Yn ychwanegol i hyn, bydd pabell gymdeithasol i fwyta, a pharlwr preifat er mwyn defnyddio plygiau trydan. Hefyd fe fydd yna ardal eistedd tu allan gyda chyfleusterau barbaciw ar eich cyfer.

Yn ystod yr wythnos bydd yna amrywiaeth o weithgareddau yn cynnwys setiau acwstig a theithiau dod i adnabod yr ardal wedi eu trefnu ar y cyd â chwmni Teithiau Cambria.

Dywedodd Llion Pughe, perchennog Y Gorau o Gymru ‘Ar ôl llwyddiant y llynedd, rydym yn falch iawn i fod yn ôl gyda’n Pebyll Glampio ar gyfer 2016. Mae cynlluniau ar y gweill i wneud yn siŵr bod yr un awyrgylch â llynedd yn parhau, a bod cyfleusterau hyd yn oed yn well, a mwy ohonynt, yn cael eu darparu. Gyda’n pebyll glên bydd popeth wedi ei godi a’i ddodrefnu ar eich cyfer, sy’n golygu y gallwch chi ganolbwyntio ar ymlacio a mwynhau’.

Gwnewch eich Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn brofiad bythgofiadwy drwy sicrhau eich ‘Pabell Glên’ gyda chwmni Y Gorau o Gymru. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich llety cliciwch yma.


Gareth Mahoney

Author


Share

Return to blog article index